Y Manics i ganu anthem swyddogol Euro 2016 Cymru

  • Cyhoeddwyd
ManicsFfynhonnell y llun, David Rawcliffe
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth y band gyfarfod rhai o aelodau'r garfan ddydd Llun

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y Manic Street Preachers yn rhyddhau anthem swyddogol tîm Cymru ar gyfer Euro 2016.

Bydd y gân, Together Stronger (C'mon Wales), yn dathlu Cymru yn cyrraedd un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf ers 1958.

Fe wnaeth y band gyfarfod rhai o aelodau'r garfan ddydd Llun i greu fideo ar gyfer y gân.

Bydd yn cael ei rhyddhau ar 20 Mai, a bydd yr arian sy'n cael ei wneud o'r anthem yn mynd tuag at elusennau Ymddiriedolaeth Princes Gate a Gofal Canser Tenovus.

Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: "Roedd hi'n brofiad gwych bod gyda band Cymreig mor eiconig.

"Mae'r Manic Street Preachers wedi bod yn gefnogwyr brwdfrydig o bêl-droed Cymru ac fe wnaeth y garfan fwynhau'r profiad."