Pwy sy'n perfformio yn Steddfod 2016?

  • Cyhoeddwyd
Candelas ym Maes B

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yn nigwyddiadau nos Prifwyl Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni.

Yn eu plith mae Only Men Aloud, seren y West End Caroline Sheen, y canwr swing a soul, James Williams, y delynores Catrin Finch a'r soprano Elin Manahan-Thomas, fydd i gyd yn rhan o raglen cyngherddau'r wythnos.

Bydd Llwyfan y Maes, sydd wedi dod yn lleoliad poblogaidd yn y blynyddoedd diwetha', yn croesawu artistiaid fel Candelas, Band Jazz Rhys Taylor ac Yws Gwynedd yn ystod yr wythnos.

Daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwetha' mai Huw Chiswell a'r Band fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes nos Wener, gyda Band Pres Llareggub yn chwarae hefyd y noson honno.

Cowbois Rhos Botwnnog fydd yn cloi'r Eisteddfod ar Lwyfan y Maes eleni, gyda Geraint Lovgreen a Plu hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn.

Yws Gwynedd fydd yn agor yr wythnos ym Maes B ar nos Fercher 3 Awst, ac mae'r artistiaid eraill fydd yno dros y bedair noson yn cynnwys Yr Eira, Y Reu, Y Bandana, Candelas, Yr Ods a Band Pres Llareggub.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Elin Manahan-Thomas yn perfformio mewn cyngerdd yn y Pafiliwn nos Fawrth.

'Rhywbeth i bawb'

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: "Mae rhaglen nos yr Eisteddfod wedi datblygu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf. Yn draddodiadol, dim ond cyngherddau oedd i'w cael gyda'r nos a'r rheiny'n glasurol iawn eu naws.

"Wrth i ni ddatblygu, rydym wedi ymateb i ofynion y gynulleidfa, ac mae pob math o weithgareddau yn digwydd ar y Maes gan geisio sicrhau bod rhywbeth i bawb yn ystod yr wythnos.

"Mae'r cyngherddau, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o'r arlwy yn ystod yr wythnos, ac rwy'n gobeithio ein bod wedi rhoi rhaglen a fydd yn apelgar at ei gilydd eleni.

"Mae gennym gymysgedd eang o genres cerddorol, o Big Band i glasurol ysgafn, a phop."

'Uchafbwynt yr Eisteddfod'

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Yr Ods yn perfformio eto ym Maes B eleni

"Wrth gwrs, mae gennym bafiliwn newydd eleni, ac rydym yn hyderus y bydd yr adeilad hwn yn gwella'r profiad i'r gynulleidfa a'r artistiaid.

"A chyda dechrau newydd fel hyn, mae modd arbrofi a chyflwyno syniadau newydd, ac mae'r rhain yn cynnwys gig gyda Candelas, Yr Ods a Sŵnami, a noson yng ngofal Catrin Finch, Serenestial: Antur trwy Ofod ac Amser.

"Dwy noson wahanol iawn, sydd, wrth eu hychwanegu at weddill yr arlwy, yn creu wythnos o amrywiaeth pur, gyda'r cyfan o safon arbennig iawn."

Ychwanegodd: "Mae poblogrwydd Llwyfan y Maes wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf - dyma ganolbwynt y Maes i lawer, ac mae sicrhau bod y bandiau a'r perfformwyr gorau i'w gweld yma, ynghyd â rhoi llwyfan i ddoniau mwy lleol a newydd, yn rhan hollbwysig o'n gwaith."

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

Cyngherddau'r Wythnos

Only Men Aloud, ffefrynnau mawr gan gynulleidfa'r Eisteddfod fydd yn agor yr Eisteddfod gyda Gwawr Edwards a Rebecca Trehearn, yn perfformio cymysgedd o hen ffefrynnau a chaneuon newydd.

Big Band Rhys Taylor sy'n cyfeilio nos Sadwrn, pan ddaw'r seren West End, Caroline Sheen, a'r canwr swing a soul, James Williams, i'r llwyfan mewn cyngerdd sydd hefyd yn cynnwys Côr yr Eisteddfod. Cyfarwyddwr cerddorol y noson a Chôr yr Eisteddfod yw Jeffrey Howard, a chawn fwynhau pob math o ganeuon yn cael eu perfformio yn steil y Big Band.

Nos Sul, mae Cymanfa Ganu'r Eisteddfod yn gant oed, a byddwn yn cofnodi a dathlu'r pen blwydd pwysig hwn yng nghwmni Alwyn Humphreys a Band Pres Tredegar, gyda Robert Nicholls ar yr organ. Bydd rhai o'r emynau o'r Gymanfa gyntaf yn cael eu canu ar y noson.

Erbyn hyn mae cynnal Noson Lawen wedi dod yn dipyn o draddodiad ar nos Lun yn y Pafiliwn, a dyna fydd ar y llwyfan eto eleni. Phyl Harries fydd yn cyflwyno noson o adloniant gyda Rhydian Roberts, Katy Treharne, Trystan Llŷr a Gwydion Griffiths, Band Pres Llareggub, Ifan Gruffydd, Elan a Miriam Isaac a Non Parry, Dyfan Roberts, Olion Byw, Côr Rygbi Unedig y De, a Dawnswyr a Chôr Bro Taf.

Catrin Finch sy'n gyfrifol am gyngerdd arbennig yn y Pafiliwn nos Fawrth, Serenestial: Antur trwy Ofod ac Amser, gwaith clasurol ysgafn newydd gyda dylanwadau byd eang, gan ddeffro'r synhwyrau drwy gerddoriaeth, dawns a llenyddiaeth.

Yn ymuno gyda Catrin fydd Elin Manahan-Thomas, Ballet Cymru, Charlie Lovell-Jones, a bydd yr actores, Sara Lloyd-Gregory yn darllen cerddi a gomisiynwyd yn arbennig gan y bardd, Eurig Salisbury.

Nid cyngerdd fydd yn y Pafiliwn nos Iau, ond yn hytrach gig arbennig, gyda Huw Stephens o Radio 1 yn cyflwyno Candelas, Yr Ods a Sŵnami, bandiau blaenaf Cymru ar hyn o bryd. Bydd y bandiau'n perfformio i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra dan arweiniad y cerddor Owain Llwyd. Cyfle i glywed caneuon adnabyddus ar wedd gwbl wahanol.

Llwyfan y Maes

Candelas yw prif fand y Llwyfan nos Fercher, gyda rownd derfynol Brwydr y Bandiau, cystadleuaeth boblogaidd Maes B, C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru, yn cael ei chynnal ar y Llwyfan ar ddechrau'r noson. Gyda 20 o fandiau wedi cystadlu eleni, a'r rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, mae hon yn argoeli i fod yn gystadleuaeth arbennig eleni.

Band Jazz Rhys Taylor yw prif artistiaid y Llwyfan nos Iau, gydag Adran D ac Yws Gwynedd, sydd yn hynod boblogaidd gyda phobl o bob oed, hefyd yn perfformio.

Eisoes, cyhoeddwyd mai Huw Chiswell a'r Band fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes nos Wener, gyda chyfuniad o hen ffefrynnau a chaneuon newydd. Bydd Band Pres Llareggub hefyd i'w gweld ar y Llwyfan yr un noson.

Cowbois Rhos Botwnnog fydd yn cloi'r Eisteddfod ar Lwyfan y Maes eleni. Eleni yw'r degfed tro'n olynol iddyn nhw berfformio yn y Brifwyl. Bydd Geraint Lovgreen a Plu hefyd yn perfformio.

Maes B

Yws Gwynedd sy'n agor yr wythnos ym Maes B ar nos Fercher 3 Awst, a bydd Yr Eira hefyd yn perfformio, gyda rhagor o enwau i'w cyhoeddi.

Y Reu yw prif fand nos Iau, a bydd cyfle hefyd i weld HMS Morris - a mwy.

Y Bandana fydd yn cloi nos Wener ym Maes B, a Candelas fydd un o'r bandiau eraill i'w gweld. Bydd rhagor o wybodaeth yn fuan.

Band Pres Llareggub, un o lwyddiannau mawr y flwyddyn ddiwethaf yw prif fand nos Sadwrn ym Maes B eleni, gydag Yr Ods yn chwarae hefyd. Bydd rhagor o artistiaid Maes B yn cael eu cyhoeddi'n fuan.