Maes Awyr Caerdydd 'yn methu targedau teithwyr'
- Cyhoeddwyd

Dyw Maes Awyr Caerdydd ddim yn cyrraedd targedau o ran denu mwy o deithwyr, medd pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd yn nodi nad oes yna gynllun tymor hir i'w ehangu.
Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013, am £52m.
Ers hynny, mae'r penderfyniad i brynu'r maes awyr, a faint gafodd ei dalu wedi bod yn achos cryn ddadlau, ond mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dod i'r casgliad fod gan weinidogion "rationale clir" i fwrw ymlaen.
Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth yn mynnu bod prynu'r maes awyr wedi ei achub.
'Angen dysgu gwersi'
Mae'r adroddiad yn dweud, serch hynny, fod y maes awyr wedi methu targedau, gan ychwanegu y dylid dysgu gwersi o feysydd awyr eraill sy' dan berchnogaeth gyhoeddus, fel maes awyr Glasgow Prestwick.
Wedi rhoi'r maes awyr yn nwylo cyhoeddus, fe gynyddodd nifer y teithwyr o 995,000 i 1.79m yn 2013-14m, ond yn 2014-15, aeth y nifer i lawr i 1.005m.
Mae'r maes awyr nawr yn disgwyl i'r nifer godi i 1.4m erbyn 2017-18 - er bod y cynllun busnes gafodd ei lunio pan brynwyd y maes awyr yn rhagweld y byddai'r nifer wedi codi i tua 2m erbyn hynny.
Perfformiad 'yn dirywio'
Mae'r adroddiad yn dweud: "Rydym yn dal heb ein hargyhoeddi fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth drafod glir, ac rydym yn cwestiynu'r penderfyniad i gynnig £55m i ddechrau, gyda'r bwriad o drafod y pris prynu i lawr."
Dywedodd Darren Millar, yr aelod Ceidwadol sy'n cadeirio'r pwyllgor ei bod yn glir fod perfformiad y maes awyr "yn dirywio" cyn 2013, a bod y "gobeithion o adfer pethau o dan y perchnogion ar y pryd yn wan".
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael maes awyr rhyngwladol yng Nghymru, a'r buddiannau ehangach sy'n dod i Gymru yn sgil hynny.
"Serch hynny, er bod yna botensial i'r maes awyr dyfu'n sylweddol, rydym yn nodi nad yw'r cynnydd - o ystyried y twf yn nifer y teithwyr a nodir yn y cynllun busnes - wedi cyrraedd y targed."
Bodlonrwydd cwsmeriaid 'ar ei uchaf'
Nododd yr adroddiad hefyd fod gan faes awyr Glasgow Prestwick gynllun busnes wyth mlynedd, tra mai dwy flynedd yw cynllun Maes Awyr Caerdydd.
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Petaen ni ddim wedi ymateb ar frys, byddai'r maes awyr yn sicr wedi cau.
"Yn lle hynny, mae bodlonrwydd cwsmeriaid ar ei uchaf gyda 1.2m o deithwyr yn defnyddio'r maes awyr dros y 12 mis diwetha - y lefel uchaf ers 2011."
Dywedodd Debra Barber, rheolwr gyfarwyddwr y maes awyr: "Hoffem ei gwneud yn glir - er ein bod yn gweithredu cynllun busnes dwy flynedd, rydym yn gweithredu gweledigaeth mwy hirdymor."
Gwasanaeth drosdro i Lundain
Yn y cyfamser, cyhoeddodd cwmni hedfan FlyBe ddydd Mercher y byddan nhw'n cynnal gwasanaethau ychwanegol rhwng Caerdydd a Llundain dros gyfnod o chwe wythnos, pan fydd Twnnel Hafren wedi'u cau ar gyfer gwaith trydaneiddio'r lein. Bydd 'na hyd at bedwar hediad y dydd yn ystod yr wythnos, a dau ar benwythnosau, rhwng 12 Medi a 21 Hydref.
Meddai llefarydd ar ran FlyBe: "Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i sicrhau fod gan gwsmeriaid sy'n teithio rhwng prif ddinasoedd Cymru a Lloegr opsiynau fforddiadwy yn ystod cyfnod pan fydd Twnnel Hafren ynghau a dim cysylltiad trenau uniongyrchol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwasanaeth dros dro hwn yn helpu i leddfu trafferthion i filoedd o deithwyr yn sgil colli gwasanaethau rheilffyrdd yn yr ardal."
Ychwanegodd Debra Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd: "Mae hwn yn newyddion da i Gymru ac yn ffordd wych arall i'r Maes Awyr wasanaethu pobl de Cymru."