Gweithwyr Amgueddfa Cymru i streicio

  • Cyhoeddwyd
Big PitFfynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,
Fydd dim teithiau dan ddaear yn Amgueddfa'r Big Pit ddydd Gwener a dydd Llun oherwydd y streic.

Fe allai streic gan weithwyr Amgueddfa Cymru effeithio ar chwe chanolfan dros y Pasg.

Mae aelodau undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol, y PCS, sy'n gweithio i Amgueddfa Cymru yn protestio yn erbyn cynlluniau i atal taliadau ychwanegol i weithwyr sy'n gweithio dros benwythnosau a gwyliau banc.

Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru fod yr undeb wedi mynd yn ôl ar gytundeb i roi pleidlais i aelodau ar gynnig posib.

Dywedodd y PCS nad oedd gan aelodau hyder yn y rheolwyr.

Mae Amgueddfa Cymru'n dweud ei bod yn wynebu toriad o 4.7% yn ei grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, a bod taliadau penwythnos yn costio tua £740,000 y flwyddyn.

Rhai o'r Amgueddfeydd y bydd y streic yn effeithio arnynt:

  • Amgueddfa'r Big Pit ym Mlaenafon, Torfaen yn agor am 13:00 ond fydd dim teithiau dan ddaear ddydd Gwener na dydd Llun.
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin ynghau ddydd Sadwrn.
  • Orielau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ynghau ddydd Sadwrn.
  • Rhai o adeiladau Amgueddfa Sain Ffagan ger Caerdydd ynghau ddydd Sul.
  • Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Gwynedd, ynghau ddydd Sul.

Cafodd streiciau eu gohirio ym mis Medi wrth i ACAS gynnal trafodaethau, ond yn gynharach ym mis Mawrth, dywedodd Amgueddfa Cymru ei bod wedi dod i'r amlwg na fyddai'r PCS yn cynnal pleidlais ar gynnig, fel y cytunwyd ym mis Rhagfyr.

Dywedodd yr amgueddfa y bydden nhw'n dechrau ymgynghori gyda gweithwyr yn unigol ar 4 Ebrill.

"Mae datrys yr anghydfod nawr yn fater brys i Amgueddfa Cymru, oherwydd y pwysau a'r gostyngiad yn y gyllideb," meddai llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,
Rhai o weithwyr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn gweithredu ym mis Awst 2015

Serch hynny, dywedodd y PCS fod aelodau wedi pleidleisio o fwyafrif mawr i "fynegu eu hanfodlonrwydd" â phrif reolwyr Amgueddfa Cymru a'u "hamharodrwydd i ailddechrau trafodaethau."

Dywedodd ysgrifennydd y PCS yng Nghymru, Shavanha Taj: "Mae'r anghydfod hwn wedi llusgo ers dwy flynedd ac mae moral a r ei isaf.

"Rydym yn deall fod cyllideb yr Amgueddfa wedi ei chwtogi ond dydyn ni ddim yn derbyn mai staff 'blaen y tŷ' - y rhai sy'n cael eu talu leia o fewn y sefydliad - ddylai orfod gwneud yr aberth mwyaf, drwy golli eu taliadau penwythnos."