Rhybudd am 'argyfwng' ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o ffermwyr Cymru wedi teithio i Lundain i godi ymwybyddiaeth am yr hyn maen nhw'n ystyried yn "argyfwng" o fewn y diwydiant.
Mae ffermwyr llaeth yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd dygymod a phrisiau llaeth ac yn rhybuddio y gallai'r effaith ar y gorllewin fod yn ddifrifol os na fydd y sefyllfa'n gwella.
Maen nhw'n ymuno ag amaethwyr eraill a chefnogwwr mewn gorymdaith o Trafalgar Square i Downing Street.
Bydd llythyr yn mynegi eu pryderon yn cael ei gyflwyno i'r Prif Weinidog David Cameron.
Dywedodd Carwyn James o Foncath ei fod yn mynd i'r rali oherwydd "sefyllfa hollol argyfyngus" y diwydiant.
Dywedodd nad oed "unman arall i droi" a bod angen "tynnu sylw'r prif weinidog" at y sefyllfa.
"Mae'n rhaid mynd â'r broblem i'r brifddinas, a dangos i'r prif weinidog pa mor gryf ni'n teimlo am y sefyllfa ni ynddo ar hyn o bryd."