A55: Lôn ynghau ar ôl i gemegyn ollwng
- Cyhoeddwyd

Mae un lôn o'r A55 yn parhau i fod ynghau fore Mercher ar ôl i gemegyn ollwng ar y ffordd ddydd Mawrth.
Roedd rhaid cau'r ffordd rhwng Bae Colwyn a Llanddulas am tua 11:00 fore Mawrth ar ôl i 27,000 litr ollwng o dancer, gan achosi oedi hir.
Cafodd y lôn ddwyreiniol ei ailagor nos Fawrth, ond mae un lon i gyfeiriad y gorllewin yn parhau ynghau.
Yn ôl yr heddlu, nid yw'n glir pryd y bydd y lôn yn agor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2016