Gohebwyr Brwsel: 'Diwrnod du, ond noson dawel'

  • Cyhoeddwyd
Place de la BourseFfynhonnell y llun, EPA

Gohebydd BBC Cymru, Tomos Morgan:

Diwrnod du oedd hi yn ôl Prif Weinidog y wlad, Charles Michel, ond noson dawel oedd hi.

Erbyn i ni gyrraedd ar ôl teithio drwy'r Iseldiroedd a maes awyr Amsterdam, roedd Brwsel yn fud.

Braidd neb ar y strydoedd, heblaw am yr heddlu, a newyddiadurwyr y byd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae gorsaf Maelbeek yn parhau i fod ar gau wedi'r ffrwydrad yno

Ymgynnull o gwmpas adeilad y Comisiwn Ewropeaidd wnaethon ni, a'r newyddiadurwyr eraill, ond heddiw ac yfory mi fydd braidd yr un gwas sifil yn gweithio yn yr adeilad.

Mae sawl swyddfa dramor wedi erfyn ar weithwyr i weithio o gartref.

Mi fydd yna dridiau o alaru yma, ac o gyrraedd, mae'n amlwg fod y galar wedi dechrau.

Gohebydd BBC Cymru, Alun Thomas:

Ar ôl tawelwch nos Fawrth, roedd bore Mercher yng nghanol Brwsel yn fwrlwm o sŵn traffig, fel bydde' rhywun yn ei ddisgwyl mewn prifddinas brysur.

24 awr ers yr ymosodiadau terfysgol yn y maes awyr ac yng ngorsaf Metro Maelbeek, roedd ffyrdd y ddinas ger pencadlys y Comisiwn Ewropeaidd yn llawn tagfeydd.

Roedd pobl sy'n gweithio yn yr ardal yn dweud bod y ffyrdd yn brysurach nag arfer - arwydd efallai bod pobl yn mynd â'u ceir i'r gwaith yn lle mentro ar y Metro.

Mae bywyd ym Mrwsel yn araf bach yn dychwelyd i ryw fath o drefn - mae'r siopau yn agored, a'r ysgolion - pobl yn byw bywydau yn ôl yr arfer, er yn ymwybodol bod rhywbeth wedi newid yn yr oriau ers i derfysgaeth gyrraedd canol prifddinas Gwlad Belg a'r Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae presenoldeb milwrol amlwg o gwmpas y ddinas ers yr ymosodiadau
Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Ar draws y byd, mae pobl wedi bod yn dangos undod gyda Brwsel, fel yma ym Mharis

Ac yn gefndir i'r cyfan - ymchwiliad yr heddlu. Mae plismyn a milwyr arfog yn amlwg ar hyd strydoedd canol y ddinas.

A thra bo'r heddlu yn ceisio dal y dyn ddihangodd o'r ymosodiad ym maes awyr Zaventem, fe fydd pobl yn cymryd cyfle i gofio amser cinio.

Wrth i fanylion y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu ddydd Mawrth ddechrau dod i'r amlwg, y pryder i bobl y ddinas yw a ydyn nhw'n nabod y bobl gafodd eu heffeithio.