Betsi: Pryder am benodiad wedi beirniadaeth cyn gyflogwr
- Cyhoeddwyd

Mae AC Ceidwadol yn pryderu am benodiad uwch swyddog i fwrdd iechyd mwyaf Cymru, yn dilyn adroddiad damniol am y bwrdd iechyd ble'r oedd hi'n arfer gweithio.
Fe wnaeth nifer o swyddogion ymddiswyddo yn sgil methiannau yn Ymddiriedolaeth Iechyd Lerpwl, gan gynnwys y brif weithredwraig, Bernie Cuthel.
Mae Ms Cuthel bellach wedi ei phenodi yn gyfarwyddwr gweithredol ar ofal cychwynnol, cymuned ac iechyd meddwl ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, mae'r penodiad yn un "amheus", ac mae canfyddiadau'r adroddiad yn debyg o "danseilio ffydd yn y bwrdd".
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod Ms Cuthel yn "aelod gwerthfawr" o'r bwrdd sy'n gwneud "cyfraniad cadarnhaol" at ddatblygiad gwasanaethau.
'Diwylliant o fwlio'
Fe wnaeth yr adroddiad am Ymddiriedolaeth Iechyd Lerpwl amlygu methiannau rheoli wrth i'r ymddiriedolaeth geisio wneud toriadau ariannol.
Mae'n dweud bod "pwysau anferthol ar staff rheng flaen" a bod "diwylliant o fwlio" yn bodoli.
Fe wnaeth nifer o reolwyr adael eu swyddi, ac fe wnaeth yr adroddiad argymell cyfeirio rhai staff at gyrff rheoleiddio.
Mae Mr Millar wedi beirniadu'r penderfyniad i benodi Ms Cuthel yng Nghymru, gan ddweud:
"Yn syml nid yw'n ddigon da. Mae cleifion yng ngogledd Cymru wedi dioddef digon ac wedi gorfod derbyn bwrdd iechyd dan fesurau arbennig, sy'n mynd o un argyfwng i'r nesaf."
'Cyfraniad cadarnhaol'
Wrth ymateb, dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod Ms Cuthel yn gwneud "cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein strategaethau gofal iechyd meddwl a gofal cychwynnol" a bod ei secondiad wedi ei ymestyn hyd at fis Awst.
Ychwanegodd Gary Doherty: "Cafodd y secondiad yma ei hysbysebu ar wefan swyddi'r GIG, fe wnaeth Bernie gais mewn cystadleuaeth agored, ac fe benderfynwyd mai hi oedd yr ymgeisydd cryfaf wedi cyfweliad.
"Cafodd yr holl brosesau cyflogaeth, gan gynnwys cysylltu gyda'i chyflogwyr presennol a blaenorol fel cefnogwyr, eu cwblhau i safon foddhaol."