Cwmderi, y Queen Vic a'r nofel
- Cyhoeddwyd

Meic Pierce, Denzil ac Eileen, Den ac Angie Watts, Grant a Phil Mitchell, y Dingles.
Maen nhw ymhlith enwau mwyaf cyfarwydd y sgrin fach dros y degawdau diwethaf ac mae 'na un gŵr sydd wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad rhai o gymeriadau amlycaf Pobol y Cwm, EastEnders ac Emmerdale - y storïwr toreithiog Rob Gittins.
Cyfrannodd Rob, sy'n byw yng Nghaerfyrddin, at 2,000 o benodau Pobol y Cwm dros y blynyddoedd ac mae o'n dal i sgwennu yn gyson i EastEnders. Mae o hefyd newydd gyhoeddi ei bedwaredd nofel 'Investigating Mr Wakefield' (Y Lolfa). Bu'n sôn wrth Cymru Fyw am ei yrfa disglair ym myd teledu a'r ddisgyblaeth o sgwennu ffuglen:
Dyfal donc
"Do'n i ddim yn wyliwr teledu brwd pan oeddwn i'n tyfu i fyny," meddai Rob Gittins. Yn ogystâl â'r cyfresi 'sebon' mae'i CV yn cynnwys cyfresi drama fel Casualty, Heartbeat, The Bill a Soldier Soldier ac roedd yn amlwg hefyd yn natblygiad Halen yn y Gwaed a Dim ond y Gwir i S4C.
"Dwi wedi mwynhau straeon erioed. Pan yn fachgen ifanc ro'n i'n teimlo mai sgwennu 'oeddwn i isio ei wneud. Ro'n i wastad yn meddwl sut gallwn i wneud bywoliaeth o sgwennu.
"Doedd sgwennu nofelau ddim yn apelio ar y pryd gan fy mod i'n teimlo nad oedd gen i ddigon o stamina i ganolbwyntio ar un stori."
Fel ym mhrofiad sawl awdur arall, dyfal donc oedd hi i Rob: "Dwi'n cofio dod ar draws hysbyseb gan y BBC yn galw am ddramâu ar gyfer y radio. A d'eud y gwir, cyn hynny do'n i ddim wedi gwrando ar ddramâu o'r fath. Ond mi es i ati a gwrando ar ambell un a dechrau sgwennu rhai fy hun."
"Am ddwy flynedd mi fues i'n anfon dramâu at y BBC, a phob un yn cael ei gwrthod," meddai. "Ond yn annisgwyl rhyw ddiwrnod mi ge's i alwad ffôn gan gynhyrchydd yn dweud wrtha i eu bod nhw am ddarlledu un o fy nramâu.
"Stori am noethlymunwyr yn Brighton oedd hi, drama chwarter awr o hyd ac er mai am chwarter i hanner nos fydda' hi yn cael ei darlledu roedd o'n gam mawr ymlaen. Daeth mam i wrando ar y darllediad, ond mi syrthiodd hi i gysgu yn ei chanol hi!"
Prosiect mawr
Ers hynny mae Rob wedi mynd yn ei flaen i sgwennu dwsinau o ddramâu ar gyfer y radio gan gynnwys dros 100 pennod o'r gyfres ddrama boblogaidd The Archers ar BBC Radio 4.
"Dydy cynulleidfa drama radio ddim yn anhygoel o fawr, ond be sy'n ddiddorol amdani hi ydi ei bod hi'n gynulleidfa ddethol ac mi ddaeth hynny a 'chydig o lwc i mi," meddai.
"Mi glywodd cynhyrchydd teledu un o fy nramâu a mi 'naeth hi fy ngwahodd i sgwennu ar gyfer prosiect newydd roedd hi'n gyfrifol amdano. Julia Smith oedd y cynhyrchydd ac EastEnders oedd y gyfres yr oedd hi yn ei datblygu."
Erbyn hynny roedd Rob wedi symud i orllewin Cymru a daeth i gysylltiad gyda William Jones, cynhyrchydd Pobol y Cwm:
"Ro'n in mwynhau gweithio gyda Wil. Er nad oeddwn i'n gallu sgwennu yn Gymraeg roedden ni'n gallu trafod llu o straeon a rhannu syniadau ar gyfer datblygu cymeriadau. Roedd hi'n berthynas hapus a barodd am dros 2,000 o benodau.
"Dwi'n hynod falch o'r stori wnaethon ni am farwolaeth yn y crud. Plentyn Denzil ac Eileen oedd gwrthrych y stori. Gymrodd hi ddwy flynedd i ni i ddatblygu'r stori a phan gyrhaeddodd hi'r sgrin mi roedd yr ymateb yn anhygoel ac roedd perfformiadau Gwyn Elfyn (Denzil) a Sera Cracroft (Eileen) yn ffantastig."
Mae Rob wedi bod yn gyfrifol am rai o straeon mwyaf dirdynnol EastEnders gan gynnwys darganfyddiad Zoe Slater mae ei 'chwaer' Kat oedd ei mam mewn gwirionedd, a'r dyfalu ynglŷn â pwy laddodd Lucy Beale.
"Mi gymrodd hi ddwy flynedd i'r straeon gyrraedd y sgrin," meddai Rob. "Mae sgwennwyr EastEnders yn dod at ei gilydd i gynhadledd i wyntyllu syniadau. Fedra i ddim hawlio'r clod am y stori i gyd gan bod yna elfennau o syniadau sgwennwyr eraill yn naturiol yn rhan o'r broses.
"Mae 'na ambell i syniad gwallgo' yn codi yn y cyfarfodydd 'ma, ond mae'n syndod faint ohonyn nhw sy'n cael eu datblygu i fod yn straeon gafaelgar sy'n dal dŵr."
"Does nunlle i guddio"
Tra bod trigolion Albert Square yn dal i chwarae rhan ganolog yn ei fywyd, mae Rob bellach wedi mentro i fyd y nofel. 'Investigating Mr Wakefield' yw'r bedwaredd nofel iddo ei sgwennu.
"Mae hi'n ddisgyblaeth hollol wahanol. Mae hi'n orchwyl arswydus ond mae'n rhoi rhyddhad y run pryd. Ar EastEnders mae 'na dîm o bobl sydd wedi creu naws a'r cymeriadau. Wrth sgwennu fy nofel rydw i yn gorfod creu'r byd 'na o gwmpas y stori. Fedra i ddim beio cyfarwyddwyr, actorion... does nunlle i guddio."
Nofel seicolegol yw 'Investigating Mr Wakefield'. Mae'r prif gymeriad yn dod ar draws stori fer 'Wakefield' gan Nathaniel Hawthorne sy'n adrodd am stori dyn sy'n diflannu ond yn ysbïo ar ei wraig er mwyn ceisio gweld faint yr oedd hi'n hiraethu amdano.
"Dim ond rhywfaint o lwyddiant gafodd y cymeriad gan ei fod o wedi ei greu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw fydda hi yn llawer haws gyda'r holl offer clustfeinio electronig sydd ar gael... felly dyna sydd wrth wraidd y nofel.
"Y cwestiwn canolog ydi fedrwch chi wirioneddol ddod i 'nabod rhywun ac ydi hi'n iawn i wneud hynny?"
Ond trwy sgwennu nofel o'r fath ydy'r awdur ei hun wedi dod i wybod pethau amdano ei hun nad oedd o'n ymwybodol ohonyn nhw?
"Cwestiwn da! Dwi'n teimlo weithiau ar ôl cyhoeddi nofel bod ambell i ffrind yn edrych arna i yn wahanol! Mae fy nofelau yn rhai tywyll. Be sy'n bwysig i bawb wybod yw mai dychymyg sydd ar waith. Petai pawb yn sgwennu popeth maen nhw yn dychmygu byddai yna lot o bethau anghyfforddus yn dod i'r golwg.
"Mae 'na stori ymhob sefyllfa - hyd yn oed y sgwrs hon gyda Cymru Fyw! Os 'dach chi am sgwennu peidiwch rhoi'r gorau iddi i. Credwch chi fi mae gan 90% o 'sgwenwyr fwy o dalent 'na fi, ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi rhoi'r gorau iddi ac wedi mynd i wneud pethau eraill. Daliwch ati!"