Dirgelwch pinnau bawd Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Promenâd AbertaweFfynhonnell y llun, Google

Mae 'na rybudd fod pinnau bawd yn cael eu gadael ar bromenâd Abertawe gan beryglu cerddwyr, beicwyr a loncwyr yn yr ardal.

Mae Cyngor Abertawe yn dweud eu bod wedi derbyn nifer o adroddiadau o fewn yr wythnos ddiwetha am broblemau sydd wedi eu hachosi gan y pinnau, o'r Mwmbwls i ganol y ddinas, ac mae'r cyngor wedi anfon swyddogion i glirio'r ardaloedd dan sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "O nifer y pinnau bawd sydd wedi eu gadael mewn gwahanol ardaloedd dros yr wythnos ddiwetha, mae'n ymddangos fod hyn yn fwriadol".

"Byddem yn annog unrhyw un sy'n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â'r heddlu neu'r cyngor."