Delweddau 'eithafol' gan gyn-athro o ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-athro o ardal Wrecsam wedi newid ei ble a chyfaddef iddo fod â delweddau cyfrifiadurol o fwystfileidd-dra (bestiality) yn ei feddiant.
Roedd Roger Owen Griffiths o Goed Efa yn honni bod ganddo'r delweddau er mwyn gwneud gwaith ymchwil, ond gwrthod hynny wnaeth y Barnwr Geraint Walters yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Fe wnaeth y barnwr wrthod awgrym y dylai'r gŵr 77 oed gael dirwy a'i ryddhau'n amodol, gan ddweud ei fod yn fater llawer mwy difrifol na hynny.
Mae wedi cael ail-fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesa'.
Gollwng cyhuddiadau
Roedd achos deuddydd i fod i ddechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher ar nifer o gyhuddiadau yn ei erbyn, ond yn dilyn penderfyniad rhwng arbenigwyr yr erlyniad a'r amddiffyniad, fe wnaeth Griffiths gyfaddef i dri chyhuddiad o fod â 51 o ddelweddau eithafol yn ei feddiant rhwng 25 a 27 Ebrill 2014.
Cafodd 11 cyhuddiad arall yn ymwneud â delweddau anweddus o blant eu gollwng oherwydd na chynigiodd yr erlyniad dystiolaeth yn ei erbyn.
Roedd Griffiths yn gwadu'r cyhuddiadau hynny ac fe gofnododd y barnwr nad oedd yn euog ohonyn nhw.
Clywodd y llys fod Griffiths yn gyn-brifathro ar Gatewen Hall, oedd yn rhan o gymuned Bryn Alyn yn Wrecsam, a'i fod wedi ei garcharu am saith mlynedd ym 1999 am nifer o droseddau, gan gynnwys ymosod yn anweddus ar fachgen 15 oed a chreulondeb i blant yn niwedd y 1970au a'r 1980au cynnar.
Honnodd yr erlyniad ar y pryd fod un bachgen wedi ei guro mor ddrwg fel ei fod wedi ei adael yn anymwybodol.