Carchar am 10 mlynedd am ddal dyn oedrannus yn gaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Fachynlleth wedi ei garcharu am 10 mlynedd wedi iddo ddal dyn oedrannus yn gaeth yn ei gartref, a'i fygwth a'i fwrw.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Kurt Jarman, 21 oed o Fryn y Gog, wedi dal Dilwyn Jones yn gaeth yn ei gartref yn y dre am dair awr.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dywedodd yr erlyniad iddo fwrw'r gŵr 77 oed, bygwth ei ladd, torri ei wddf gyda chyllell Stanley, difrodi ei gartref wrth chwilio am arian, cyn ei orfodi i dynnu arian o dwll yn y wal.
Cyfaddefodd Jarman i gyhuddiadau o geisio lladrata a cham-garcharu.
'Yfed yn drwm'
Dywedodd Janet Gedrych ar ran yr erlyniad fod Jarman yn adnabod Mr Jones a'i fod wedi ei drin yn wael yn y gorffennol.
Ar 21 Tachwedd 2015 roedd Jarman wedi chwarae rygbi yn Harlech, ac yn ôl ei fargyfreithiwr, roedd wedi yfed yn drwm wrth i'r bws roedden nhw'n teithio ynddo aros mewn tafarndai ar y ffordd adref.
Ychydig cyn hanner nos, medd Miss Gedrych, gorfododd Jarman ei hun i mewn i gartref Mr Jones ar Stryd Penrallt.
Fe darodd Mr Jones i'r llawr a mynnu £5,000 ganddo, gan fygwth "tynnu'r tŷ yn ddarnau".
Yn ystod y tair awr nesaf, dywedodd Ms Gedrych i Jarman achosi difrod mawr a dal cyllell mor agos at wddf Mr Jones iddo dorri'i groen.
Daeth Jarman o hyd i gardiau banc Mr Jones, ond llwyddodd y gŵr oedrannus i feddwl am ffordd o ddianc.
Dywedodd nad oedd yn gallu cofio rhifau cyfrinachol y cardiau ond y byddai'n gallu gwasgu'r botymau petai'n mynd i beiriant twll yn y wal.
Yn ôl Ms Gedrych, roedd Mr Jones yn gwybod bod camerâu cylch cyfyng ar brif stryd Machynlleth, ac wrth iddyn nhw ddynesu at y peiriant, fe wrthododd mynd ymhellach.
Sylweddolodd Jarman ei fod "ar gamera" a gadael, ond fe geisiodd dynnu arian o'r peiriant o gyfrifon Mr Jones ddwywaith, heb lwyddiant.
Niwed seicolegol
Cafodd Mr Jones ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gan yr heddlu, ond ar y ffordd aeth â'r swyddogion i'w dŷ i ddangos y difrod.
Yn ôl Ms Gedrych, mae Mr Jones wedi dioddef niwed seicolegol difrifol yn dilyn yr ymosodiad.
Mae wedi methu a mynd yn ôl i'w gartref a bellach mae'n byw mewn llety i'r henoed.
Dywedodd bargyfreithiwr Jarman, John Hedgecoe mai alcohol oedd wrth wraidd ei ymddygiad.
Wrth ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar, dywedodd y barnwr Peter Heywood: "Fe orfodoch eich hun i mewn i'w gartre gyda'r bwriad o ddwyn arian oddi wrtho... Fe ddalioch chi fe'n gaeth.
"Mae e wedi ei adael â chreithiau y mae e'n meddwl fydd ganddo am weddill ei fywyd."