53 o achosion disgyblu yng ngharchardai Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae carchardai Cymru wedi delio â 53 o ddigwyddiadau disgyblu mewn pedair blynedd, yn ôl adroddiad.
Mae ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod nifer y digwyddiadau yng ngharchardai Cymru a Lloegr wedi codi mwy na 200% ers 2012.
Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd â'r nifer fwyaf o ddigwyddiadau, gyda 13 yn 2014 a 25 y llynedd.
Cafodd safonau newydd ar gofnodi digwyddiadau eu cyflwyno dros yr haf y llynedd.
Dros gyfnod o bedair blynedd, dau ddigwyddiad fuodd yng ngharchardai Caerdydd ac Abertawe a doedd dim un yng ngharchar agored Prescoed ym Mrynbuga.
Dywedodd yr elusen carchardai, The Howard League for Penal Reform, nad adeiladu rhagor o garchardai oedd yr ateb.
Yn ôl y Prif Weithredwr, Frances Crook: "Mae tystiolaeth yn dangos fod adeiladu rhagor o garchardai yn ychwanegu at orboblogi a'r problemau sy'n dilyn, gan fod llysoedd yn anfon mwy o bobl i'r carchar bob dydd."
Mae digwyddiadau disgyblu'n cael eu nodi os bydd dau garcharor yn cydweithio yn erbyn rheolau sefydliad, gan gynnwys aflonyddwch mawr fel terfysg.