Carcharu dau am ymosod ar ddyn 69 oed ar fws

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dau berson wedi eu dedfrydu i chwe blynedd o garchar yr un ar ôl pledio'n euog i ymosod ar ddyn 69 oed ar fws.

Fe wnaeth Jasmine Jessie Jenkins, 22, a James Dean Jenkins, 34, ymosod ar y dyn ar fws oedd yn teithio drwy Bontypridd ar 11 Chwefror.

Cafodd ei gicio a'i daro nifer o weithiau ar ôl disgyn i'r llawr, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Matt Hicks o Heddlu'r De: "Roedd hwn yn ymosodiad dychrynllyd a dirybudd pan ddioddefodd dyn ymosodiad mewn man cyhoeddus.

"Fe geisiodd amddiffyn ei hun drwy guddio'i wyneb wrth orwedd ar lawr ond fe ddioddefodd anafiadau pellach.

"Mae'r dyfarniad yma'n anfon neges glir na fydd trosedd ag ymosodiadau treisgar ar ein rhwydwaith drafnidiaeth yn cael eu dioddef. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fynd a throseddwyr o flaen y llysoedd."