'Ansawdd gofal iechyd Cymru'n gwella', yn ôl y llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae llai o bobl Cymru'n marw a mwy yn goroesi cyflyrau fel canser, diabetes, strôc a chlefyd y galon, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod hyn o ganlyniad i gamau sy'n cael eu cymryd i wella gwasanaethau, a'r lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad.
Cafodd strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd, ei gyhoeddi yn 2011, ac mae'n gosod gweledigaeth dros bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru.
Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd gweinidogion y byddai £10m yn cael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yn y cynlluniau i wella gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, ymhlith y prif lwyddiannau mae:
- Llai o bobl yn marw o ganser - rhwng 2004 a 2014 gwelwyd gostyngiad o tua 10% yn y bobl sy'n marw o ganser yng Nghymru;
- Nifer y marwolaethau sy'n ymwneud â diabetes yn gostwng;
- Y nifer sy'n goroesi strôc yn gwella - bu cynnydd o bron 500 yn y nifer sy'n goroesi strôc dros y pum mlynedd diwethaf;
- Nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyflyrau niwrolegol yn is o gymharu â gwledydd eraill y DU;
- Llai o bobl yn marw o glefyd y galon - dros 8,000 yn llai o gleifion wedi'u trin am glefyd coronaidd y galon dros y pum mlynedd diwethaf;
- Y cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yn gwella.
Dywedodd Mr Gething: "Yn 2011, fe wnaethom ymrwymiad i bobl Cymru y byddem yn gwella ansawdd y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn, gan ddarparu gofal o'r ansawdd gorau yn y man cywir, ar yr adeg gywir, gan y person cywir.
"Diolch i lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad yn ein gwasanaeth iechyd ac ymroddiad a phroffesiynoldeb ein doctoriaid, nyrsys a staff eraill y gwasanaeth iechyd, mae mwy o bobl yn goroesi cyflyrau fel canser, strôc, clefyd y galon a diabetes.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud o hyd i wella amseroedd aros i gleifion, ond mae un peth yn glir - mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn helpu pobl i fyw bywydau hirach, iachach."