Cyhuddo dynes o Fachynlleth o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Alexander StadiumFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Stadiwm Alexander fore Mawrth

Mae dynes o Fachynlleth wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio wedi i ddyn gael ei drywanu mewn stadiwm athletau yn Birmingham.

Mae Lauren Jeska, 41 oed, wedi ei chyhuddo o ymosod ar y dyn yn Stadiwm Alexander fore Mawrth.

Mae'r gŵr 51 oed yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog yn ôl yr heddlu.

Bydd Ms Jeska yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Birmingham ddydd Iau.

Mae hi hefyd yn wynebu dau gyhuddiad pellach o glwyfo a bod â llafn yn ei meddiant.