Gwrthdrawiad Sir Gâr: Gyrrwr wedi marw
- Published
Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Gaerfyrddin nos Fercher.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A483 ger cylchfan Pont Abraham am 22:00.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod y fenyw oedd yn gyrru'r cerbyd wedi marw yn y fan a'r lle, a bod ei theulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Bu'r ffordd ar gau am beth oriau, cyn ailagor ychydig cyn 05:30 fore Iau.