Rhybudd i atal cerbydau rhag difrodi tir
- Published
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r heddlu'n rhybuddio pobl sy'n ystyried gyrru cerbydau a beiciau modur oddi ar y ffordd drwy goedwigoedd Cymru i ailfeddwl.
Daw'r rhybudd ar ddechrau Gwyliau'r Pasg ar ôl i swyddogion gorfodaeth CNC holi pedwar o bobl y penwythnos diwethaf ar amheuaeth o yrru beiciau modur yn anghyfreithlon yng nghoedwigoedd Clocaenog, Corwen a Ceiriog.
Yn ôl llefarydd mae'r arfer yn beryglus, yn difrodi'r amgylchedd ac yn gwastraffu arian trethdalwyr yn atgyweirio'r difrod maent yn ei achosi.
Dywedodd Rheolwr Adnoddau Gweithredol CNC yng Ngogledd Cymru, Paula Harley: "Mae ein coedwigoedd ac ardaloedd mynediad agored yn llefydd gwych i bobl ymlacio a mwynhau natur.
"Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr y gallant wneud hynny mewn heddwch ac rydym yn cymryd camau i atal gweithgareddau anghyfreithlon fel hyn."