Corff cefnogi hyfforddiant yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Bydd Creative Skillset Cymru, y corff sy'n cefnogi hyfforddiant ym maes y cyfryngau creadigol, yn dod i ben.
Mae'r wybodaeth wedi dod i law rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ac mae'n dilyn newyddion y llynedd bod Cyfle, corff hyfforddi arall yn yr un maes, hefyd yn dod i ben.
Mae'r cyfryngau creadigol yn cynnwys ffilm, teledu, radio, ffasiwn, tecstilau, animeiddio, gemau, cyhoeddi, hysbysebu a marchnata.
Yn ôl Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, mae'r newyddion diweddaraf yn ergyd drom i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Creative Skillset: "Roedd Creative Skillset yn rheoli nifer o brosiectau oedd wedi eu hariannu gan y llywodraeth ac a oedd yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau yn y gweithle.
"Wrth i brosiectau mawr ddod i ben a gyda newid pwyslais ym mholisi gan gefnu ar gymhorthdaliadau cyhoeddus ar gyfer sgiliau, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn ag adnoddau - penderfyniadau sydd wedi arwain at gau ein swyddfeydd yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon."
Ychwanegodd llefarydd y byddai Creative Skillset y parhau i ddarparu prosiectau led led y DU gyda phwyslais ar brentisiaethau yn y diwydiant Cyfryngau Creadigol a chyrsiau penodol ym maes addysg uwch.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru a chadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Creative Skillset Cymru, bod y cyhoeddiad yn "ergyd".
"Mae'n amlwg yn newyddion siomedig," meddai. "Mae Creative Skillset yn gorff Prydeinig, mae'n chwarae rhan allweddol yn llywio anghenion hyfforddiant y diwydiant creadigol. Mae hwn yn sector bellach sy'n cyflogi ryw 40,000 o bobl ac mae cyfleoedd i dyfu dros y blynyddoedd nesaf yn anferthol.
"Mae'n angenrheidiol bod ganddom ni'r sgiliau a'r talent ac mi oedd Creative Skillset yn chwarae rhan allweddol yn hynny."