Cymru 1-1 Gogledd Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Simon Church gyda chic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm i sicrhau gêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Hon oedd gêm gartref olaf Cymru cyn i'r tîm gystadlu ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ym Mehefin.
Daeth y gic o'r smotyn ar ôl i Chruch gael ei lorio gan Gareth McAuley yn y blwch cosbi.
Craig Cathcart roddodd Gogledd Iwerddon ar y blaen ar ôl yr egwyl wedi i Gymru fethu a chlirio'r bêl yn dilyn cic gornel.
Ar ôl y gêm dywedodd rheolwr Cymru Chris Coleman ei fod yn hapus iawn gyda pherfformiad y chwaraewyr, gan ddweud "byddaf wedi bod yn hapus gyda'r perfformiad hyd yn oed pe ba'i ni wedi colli 1-0.
"Roedd yna berfformiadau da gan nifer."
Aeth Cymru i'r gêm heb nifer o'u prif chwaraewyr gan gynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey.
Roedd yn gyfle felly i'r rheolwr weld pa chwaraewyr eraill y dylai gynnwys yn y garfan derfynol fydd yn teithio i Ffrainc.
'Chwarae gyda balchder'
Ddydd Llun fe fydd Cymru oddi cartref i'r Wcráin, prawf anoddach fyth i dîm Coleman.
Er gwaeth absenoldeb y sêr, roedd Cymru gystal os nad gwell na'r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf, ond heb greu fawr o gyfleoedd.
David Cotterill ddaeth agosaf, ei gic rydd yn cael ei arbed gan Michael McGovern.
Ond roedd Gogledd Iwerddon yn edrych fymryn yn fwy bygythiol wedi'r egwyl, ac yn dilyn cornel fe wnaeth Craig Cathcart ergydio i gefn y rhwyd.
Dywedodd Coleman: "Fe wnaeth y bechgyn chwarae gyda balchder, heb saith neu wyth fyddai fel arfer yn dechrau i ni.
"Roedd yna nifer o ffactorau positif, roeddwn yn falch iawn i Sam Vokes wnaeth yn dda i ni, a Simon Church, wnaeth o argraff ar y gêm.
"Mae un neu ddau o chwaraewyr wedi ei gwneud yn fwy anodd i mi ddewis pwy fydd y 23 ar gyfer yr Euros nawr!"