Gwaharddiad dros dro ar y broses o droi glo yn nwy
- Cyhoeddwyd

Mae 'na waharddiad dros dro wedi ei gyflwyno ar y broses gemegol o droi glo yn nwy yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol bod angen trin technolegau anghonfensiynol ar gyfer creu olew a nwy gyda gofal.
Ychwanegodd Carl Sargeant byddai'n rhaid i unrhyw gais sy'n cael sêl bendith awdurdodau lleol hefyd gael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
"Cyhoeddwyd y cyfarwyddyd i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw gais cynllunio sy'n gysylltiedig â nwyeiddio glo gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru lle mae awdurdodau lleol o blaid ei gymeradwyo," meddai Mr Sargeant.
Mae'r gwaharddiad yn berthnasol i unrhyw gais sydd wedi ei gofrestru ar neu ar ôl 25 Mawrth a hynny er mwyn "osgoi unrhyw amwysedd", meddai Mr Sargeant.