Adran 2: Northampton 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Casnewydd yn anlwcus i beidio cael canlyniad gwell ddydd Gwener wrth iddyn nhw gael eu trechu gan y tîm ar gopa Adran 2, Northampton.
John Marquis wnaeth sgorio'r gôl fuddugol yn yr hanner cyntaf yn dilyn gwaith da gan Lee Martin.
Daeth Casnewydd yn agos i'w gwneud hi'n gyfartal yn yr ail hanner wrth i Medy Elito daro'r traws, ond fe wnaeth amddiffyn Northampton lwyddo i gadw'r ymwelwyr draw.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y 17eg safle yn Adran 2, 13 pwynt o safleoedd y cwymp.