Gleision 56-8 Treviso
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Ellis Jenkins
Fe wnaeth y Gleision gadw eu gobeithion yn fyw o orffen yn hanner uchaf y Pro12 gyda buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Treviso.
Croesodd y tîm cartref y llinell gais wyth gwaith yn y fuddugoliaeth o 56-8.
Daeth y ddau gais cyntaf cyn yr egwyl, diolch I Ellis Jenkins a Josh Navidi.
Erbyn 53 munud roedd y Gleision wedi sicrhau pwynt bonws gyda Lee-Lo a Kristian Dacey yn croesi.
Yna aeth y Gleision yn rhemp a chais yr un i Manoa Vosawai, Tom James, Dan Fish a Rhys Patchell.
Daeth gweddill y pwyntiau o droed Gareth Anscome (12) a Jarrod Evans (4).
Golygai'r canlyniad fod y Gleision yn codi'n uwch na'r Gweilch am y tro.
Mae'r Gweilch yn wynebu'r Scarlets yn Stadiwm y Liberty yn ddiweddarach dydd Sadwrn.