Pedwar wedi marw mewn damwain ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.
Digwyddodd y ddamwain ar yr A470, yn Rhaeadr toc wedi 11:45 ddydd Gwener.
Cafodd y lon rhwng Ffordd yr Eglwys a chylchdro Llangurig ei chau tan 17:30.
Dywedodd yr arolygydd Brian Jones o Heddlu Dyfed-Powys, fod dau deithiwr wedi marw yn y ddau gar.
Mae un person yn yr ysbyty ond does yna ddim rhagor o wybodaeth am eu cyflwr.