Pedwar wedi marw mewn damwain ffordd

Mae pedwar o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A470, yn Rhaeadr Gwy toc wedi 11:45 ddydd Gwener.

Cafodd y lon rhwng Ffordd yr Eglwys a chylchdro Llangurig ei chau tan 17:30.

Dywedodd yr arolygydd Brian Jones o Heddlu Dyfed-Powys, fod dau deithiwr wedi marw yn y ddau gar.

Mae un person yn yr ysbyty ond does yna ddim rhagor o wybodaeth am ei gyflwr.

Mae swyddogion arbenigol yr heddlu yn rhoi cefnogaeth i berthnasau'r rhai a fu farw.

Digwyddodd y ddamwain ychydig cyn damwain arall ym Mhowys.

Bu farw dynes 83 oed yn y ddamwain ar yr A483, i'r gogledd o'r Trallwng.