Arestio tri wedi lladrad
- Published
Mae Heddlu'r De wedi arestio tri dyn ar ôl lladrad arfog mewn siop gwerthu gwyliau yng Nghaerdydd.
Cafodd cyllell ei defnyddio yn y digwyddiad yn swyddfeydd Thomas Cook yn yr Eglwys Newydd tua 12:30 dydd Sadwrn.
Dywed Heddlu'r De fod y tri dyn yn y ddalfa ac na chafodd unrhyw un niwed.