Dreigiau 15-16 Caeredin
- Cyhoeddwyd

Hallam Amos yn croesi
Er i'r asgellwr Hallam Amos sgorio dau gais arbennig yn yr ail hanner colli fu hanes y Dreigiau gartref i Gaeredin yn y Pro12.
Daeth pwyntiau eraill y tîm cartref o esgid Dorian Jones.
Ond fe wnaeth Caeredin ennill diolch i gais Hamish Wsatson, wyth pwynt o droed Sam Hidalgo-Clyne a chic gosb Blair Kinghorn,
Mae'r canlyniad yn gweld Caeredin yn symud i'r seithfed safle.
Roedd canolwr Cymru Tyler Morgan a'r maswr Dorian Jones yn dychwelyd i dîm y Dreigiau ar ôl bod allan o'r gêm gydag anafiadau.
Chwaraewr gorau'r gêm oed wythwr Cymru Taulupe Faletau