Comisiwn arbennig i artist o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Caniadau Solomon a symbyliaeth ysgrythyddol y pomegraned oedd ysbrydoliaeth dyluniad y brethynnau
Disgrifiad o’r llun,
Caniadau Solomon a symbyliaeth ysgrythyddol y pomegraned oedd ysbrydoliaeth dyluniad y brethynnau

Roedd gwasanaeth y Pasg yng Nghadeirlan Anglicanaidd Lerpwl ddydd Sul yn un arbennig iawn i artist tecstilau o ogledd Cymru.

Fe gafodd Cefyn Burgess ei gomisiynu dros ddwy flynedd yn ôl i greu brethynnau i addurno dwy allor y gadeirlan, a chlustogau i addolwyr a Dydd Sul y Pasg oedd y ddefod gyntaf yno ers i'r tecstilau gael eu gosod.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gadeirlan gomisiynau tecstilau ers y 1930au, a dyma un gomisiynau mwyaf yr artist hyd yma.

Dywedodd Mr Burgess, sy'n cadw siop yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun, ei fod yn awyddus i ddefnyddio testun o'r ysgrythur wrth ddylunio brethynnau ar gyfer y gwaith.

Ar ôl ymchwilio, fe gafodd ei ysbrydoli gan Ganiadau Solomon a symbolaeth y goeden pomgranad.

Perthynas Duw â'i bobl

"Mae Caniadaeth Solomon yn sôn am y berthynas rhwng pobl, pobl a Duw, a chariad," meddai.

"Wnes i edrych ar Goron Solomon, sef y goron sydd ar ben pomgranad - rhoi hwnnw a siapiau'r dail ar y brethyn dodrefnu."

Disgrifiad o’r llun,
"Ffordd hyfryd o ddathlu'r Pasg": Ymateb y Canon Myles Davies o'r Gadeirlan ar ôl gosod y tecstilau

Roedd Mr Burgess yn y gadeirlan ar gyfer y gwasanaeth cyntaf yno ers gosod y tecstilau newydd, y rhai cyntaf i'r gadeirlan eu comisiynu ers agor yr adeilad i addolwyr ar ddechrau'r 1930au.

Dywedodd y Canon Myles Davies, Is-Ddeon a blaenor canu'r Gadeirlan, mai nod y comisiwn oedd ceisio creu gofod cynhesach, a chyflwyno ychydig o liw i'r adeilad mewn ffordd gynnil.

"Mae'r cyfan yn edrych yn hyfryd, ac mae'n ffordd wych o ddathlu'r Pasg," meddai.