Ymweliad cyntaf Alun Cairns fel Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns

Bu Alun Cairns yn cynnal ei ymweliad swyddogol cyntaf fel Ysgrifennydd Cymru yn gynharach ddydd Mawrth.

Cafodd Mr Cairns ei benodi yn gynharach y mis hwn, i olynu Stephen Crabb, a gafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Yn dilyn ymweliad Mr Cairns ag Abertawe mae'r cyngor wedi sôn mwy am y cynllun i sefydlu Cytundeb Dinesig:

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Byddai Cytundeb Dinesg 'Arfordir Rhyngrwyd' ar gyfer ardal Bae Abertawe yn trawsnewid pethau ar gyfer trigolion lleol a'r economi. Nid yn unig fyddai o'n creu miloedd o swyddi ac yn annog ffyniant, byddai hefyd yn gosod Bae Abertawe ar flaen y gad or an arloesi digidol ar draws y byd, gyda phobl leol yn elwa nawr yn ogystal â'r cenhedlaethau i ddod.

"Dyna pam rwy'n croesawu cefnogaeth Ysgrifennydd newydd Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar gyfarfod cadarnhaol gyda'i ragflaenydd cyn cyllideb y Canghellor, pan roddwyd sêl bendith ar gyfer trafodaethau i ddechrau Cytundeb Dinesig ar gyfer ardal Bae Abertawe."

Dywedodd Mr Cairns fod Llywodraeth y DU yn cydnabod potensial ardal Bae Abertawe. Wrth siarad cyn yr ymweliad dywedodd Mr Cairns: "Fel Ysgrifennydd newydd Cymru fe fydda' i'n defnyddio pob cyfle posib i hyrwyddo cyfraniad pob twll a chornel yng Nghymru i'r twf economaidd rydyn ni'n gweld.

"O'r busnesau sy'n creu swyddi, i'r Brifysgol sy'n cystadlu gyda'r gorau ar draws y byd, mae Llywodraeth y DU yn deall y cyfraniad hanfodol mae ardal Abertawe yn ei wneud i sicrhau llwyddiant ein cynllun economaidd hirdymor.

"Rydyn ni'n edrych 'mlaen i weld y trafodaethau'n symud 'mlaen ac adeiladu tuag at greu cytundeb allai drawsnewid ffawd rhanbarth de orllewin Cymru'n gyfan gwbl."