Cyhuddo is-ganghellor prifysgol o 'wrthdaro buddiannau'
- Cyhoeddwyd

Mae is-ganghellor Prifysgol Cymru'n wynebu cyhuddiadau o wrthdaro buddiannau wedi ei benodiad i gadeirio adolygiad ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Athro Medwin Hughes yn arwain grŵp i edrych ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth, ond mae Cymru Fyw wedi clywed honiadau na fydd y broses yn "dryloyw".
Mae'r cyhuddiadau'n deillio o'r ffaith bod dau gyhoeddwr, Gwasg Prifysgol Cymru a Chanolfan Peniarth, yn dod o dan adain Prifysgol Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "nonsens" yw'r awgrym nad ydi'r trefniadau ar gyfer yr adolygiad wedi bod yn dryloyw.
Yn ôl llefarydd ar ran Prifysgol Cymru, mae proses yn ei le ar gyfer "ymateb i wrthdaro buddiannau".
Bydd yr adolygiad yn edrych ar amcanion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Llywodraeth Cymru wrth iddi gefnogi llenyddiaeth a'r diwydiant cyhoeddi.
'Creu problemau'
Mae penodiad yr Athro Hughes yn "creu problemau", yn ôl yr awdures Dr Jasmine Donahaye, o Brifysgol Abertawe, sy'n arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.
Bu'n gweithio yn y byd cyhoeddi am wyth mlynedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd cylchgrawn Planet.
Pwysleisiodd Dr Donahaye ei bod yn croesawu'r adolygiad, ond ei bod yn amheus o benodiad y cadeirydd.
'Problem'
"Mae'n ymddangos bod yna wrthdaro buddiannau o ystyried cysylltiad y cadeirydd gyda Phrifysgol Cymru," meddai Dr Donahaye.
"Mae'n atgyfnerthu'r pwynt bod yna faterion yn mynd ymlaen y tu ôl i ddrysau caeëdig yn dilyn cynigion y llywodraeth i wneud toriadau i'r cyngor llyfrau.
"Ar ôl y tro pedol wedi gwrthdystio cyhoeddus, byddai'n ymddangos bod angen i'r llywodraeth fod yn dryloyw am unrhyw broses o adolygiad."
Ychwanegodd: "Bydd (yr adolygiad) yn edrych ar y wasg (Prifysgol Cymru) ond i wneud hynny mewn ffordd deg gyda Medwin Hughes, mae i weld yn amhosib ac yn broblem na ellir ei datrys."
Aelodau'r adolygiad
Fe gadarnhaodd y llywodraeth bod y grŵp wedi cyfarfod ddwywaith, a hynny cyn y cyhoeddiad am ei sefydlu bythefnos yn ôl.
Ymysg aelodau eraill o'r adolygiad mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth, y nofelydd John Williams, Philippa Davies sy'n seicolegydd busnes a'r ymgynghorydd, Martin Rolph.
Fe gynigodd Plaid Cymru gwestiwn brys ar y mater yn y Senedd ar ddiwrnod olaf y Cynulliad cyn yr etholiad, ond cafodd ei wrthod.
Dywedodd Aelod Cynulliad y blaid, Simon Thomas: "Mae rhai wedi mynegi pryder i fi y gall fod gan yr Athro Medwin Hughes fudd amhriodol yn y dasg dan sylw gan ei fod yn gyfrifol am ddau gyhoeddwr - Gwasg Prifysgol Cymru a Pheniarth - ei hunan."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru: "Nododd yr Athro Medwin Hughes ei fod ef a'i gyd aelodau wedi bod yn hapus i dderbyn gwahoddiad y llywodraeth i wasanaethu ar y panel.
"Nododd hefyd fod yr holl aelodau yn ymwybodol o bwysigrwydd tryloywder a bod proses wedi'i sefydlu ar gyfer ymateb i wrthdaro buddiannau.
"Bydd y panel yn cyhoeddi fframwaith clir ar gyfer ymwneud â rhan-ddeiliaid er mwyn sicrhau bod cyfleoedd addas ar gyfer derbyn tystiolaeth ar y pynciau a nodwyd yn y cylch gorchwyl."
'Nonsens'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nonsens yw'r awgrym nad yw'r trefniadau ar gyfer yr adolygiad hwn wedi bod yn dryloyw.
"Mae pob grŵp cynghori yn cynnwys arbenigwyr yn eu maes, ac os oes unrhyw wrthdaro buddiannau, neu os yw'n ymddangos bod gwrthdaro o'r fath, mae hynny'n cael ei gofnodi a'i reoli ar ôl cael cyngor ein swyddogion cydymffurfiaeth.
"Mae gofyn hefyd i aelodau lofnodi telerau ac amodau sy'n rhoi rheidrwydd arnynt i weithredu mewn ffordd agored a gonest."
Mae disgwyl i'r grŵp adrodd ar ei ganfyddiadau ym mis Medi.