Wrecsam 2-1 Cheltenham

  • Cyhoeddwyd
Javan VidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Javan Vidal roddodd Wrecsam ar y blaen

Wrecsam 2-1 Cheltenham

Aeth y tîm cartre' ar y blaen wedi 16 munud gyda chyffyrddiad Javan Vidal o ergyd bell Simon Heslop. Dyma'r tro cynta' i Vidal ddechrau gêm ers iddo ddychwelyd ar ôl llawdriniaeth i'w stumog.

Er i James Dayton daro'n ôl gyda chic rydd wych, fe sicrhaodd Wes York y fuddugoliaeth i'r Dreigiau gyda gôl hwyr yn nhrydydd munud yr amser ychwanegol.

Mae'r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion Wrecsam o le yn y gemau ail gyfle yn fyw, wrth i Wrecsam godi i'r wythfed safle yn y Gyngres Genedlaethol.