BBC Cymru Fyw

Joe Marler: Gwrandawiad disgyblu World Rugby ar 5 Ebrill

Published
image copyrightRex Features
image captionFe wnaeth Joe Marler (1) ei sylwadau yn ystod y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham

Bydd prop Lloegr Joe Marler yn wynebu panel disgyblu corff World Rugby ar ddydd Mawrth 5 Ebrill ar ôl gwneud sylw sarhaus am flaenwr Cymru, Samson Lee.

Roedd trefnwyr pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi penderfynu peidio cosbi Marler wedi'r digwyddiad yn ystod gêm ar 12 Mawrth.

Ond mae World Rugby, sy'n rheoli'r gêm ar lefel ryngwladol, o'r farn fod ei sylwadau "yn achos o gamymddwyn ac/neu yn torri rheolau ymddygiad."

Fe wnaeth Marler ei sylw yn ystod buddugoliaeth Lloegr o 25-21 dros Gymru yn Twickenham.

Roedd o wedi ymddiheuro i Lee, sy'n perthyn i'r gymuned Deithwyr, yn ystod hanner amser.

Cafodd y chwaraewr Harlequins gerydd gan brif hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones, ond roedd Undeb Rygbi Cymru wedi'u siomi na chafodd Marler ei wahardd.

Straeon perthnasol

  • Marler i wynebu gwrandawiad annibynnol am sylw sarhaus