Gynnau: 29 o blant wedi eu harestio mewn tair blynedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd plant mor ifanc â 13 oed eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â gynnau yn y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae'r ffigyrau gafodd eu rhyddhau gan dri o heddluoedd Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod 29 o bobl dan 18 oed wedi eu harestio rhwng 2013 ac Ionawr 2016.
Roedd y nifer fwyaf yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedden nhw wedi penderfynu os oedden nhw am ryddhau'r wybodaeth.
'Dyfais tebyg i Taser'
Ymysg y 14 gafodd eu harestio yng ngogledd Cymru roedd plentyn 13 oed gafodd ei arestio am fod â gwn neu wn ffug yn ei feddiant, gyda'r bwriad o godi ofn.
Cafodd merch 13 oed ei chyhuddo ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i wn peled yn 2015.
Dywedodd yr heddlu hefyd bod bachgen 16 oed wedi ei gyhuddo o fod â gwn yn ei feddiant ar ôl cael ei ddarganfod gyda "dyfais tebyg i Taser" yn 2015.
Yn ardal Heddlu Gwent, cafodd pump o blant eu cyhuddo o droseddau ar ôl i 11 gael eu harestio dros dair blynedd.
Cafodd merch 16 oed ei chyhuddo o fod â gwn ffug yn ei meddiant gyda'r bwriad o godi ofn yn 2016, ac fe gafodd dau fachgen 17 oed eu cyhuddo o fod â gwn ffug yn eu meddiant y llynedd.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod tri o fechgyn wedi eu harestio am droseddau'n ymwneud â gynnau yn 2013, ond nad oedd mwy wedi eu harestio nac eu cyhuddo ers hynny.