BBC Cymru Fyw

Teyrnged i ddisgybl 'annwyl' wedi gwrthdrawiad A470

Published
Mae cymuned ysgol wedi ei "thristau a'i syfrdanu" yn dilyn marwolaeth disgybl mewn gwrthdrawiad ffordd yr wythnos diwethaf.
Bu farw Margaretta Jones, 77, a'i hŵyr pump oed, Ned Jones, o Gapel Bangor, Aberystwyth, yn y
Hefyd bu farw Vida Alford, 86, a Gillian Alford, 58, o Sir Amwythig, yn y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd Clive Williams, Prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth: "Mae cymuned yr ysgol wedi ei thristau a'i syfrdanu wrth i ni glywed am farwolaeth sydyn Ned Jones.
"Mi fyddwn yn cofio amdano fel disgybl annwyl a phoblogaidd yn y dosbarth Derbyn.
"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Digwyddodd y ddamwain yn Rhaeadr Gwy am tua 11:45 ddydd Gwener.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.

Straeon perthnasol

  • Cyhoeddi enwau wedi damwain ar yr A470 ddydd Gwener