Cynllun wedi'i lansio i gefnogi'r diwydiant dŵr

  • Cyhoeddwyd
tryweryn heddiwFfynhonnell y llun, Tony Edwards
Disgrifiad o’r llun,
Llyn Celyn yw cronfa ddŵr mwyaf Cymru

Mae cynllun newydd gwerth £2.5m wedi cael ei lansio i gefnogi'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon.

Bwriad prosiect Dŵr Uisce yw datblygu technoleg newydd carbon isel i ddosbarthu dŵr yn fwy effeithlon.

Bydd y dechnoleg yn cael ei dreialu yn y ddwy wlad cyn ei bod ar gael yn fasnachol.

Fe gyfrannodd yr Undeb Ewropeaidd £2m at y fenter drwy eu rhaglen gydweithredu Cymru-Iwerddon.

Mae'r cynllun pum mlynedd yn cael ei arwain gan Goleg y Drindod, Dulyn, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.

Yn ogystal â datblygu'r dechnoleg i sicrhau'r cyflenwad dŵr yn y tymor hir, bydd y cynllun yn ymchwilio i sut all diwydiant yn y ddwy wlad ymateb i heriau fel newid hinsawdd.