Cynnig is-deitlau Punjabi ar raglen S4C
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, S4C
Mae'r gantores Nesdi Jones o Gricieth wedi dod i enwogrwydd yn India, ac mae'n canu mewn Punjabi
Mi fydd is-deitlau Punjabi ar gael am y tro cyntaf ar S4C heno.
Bydd dewis i ddangos yr is-deitlau ar wasanaeth ar-lein y sianel yn ystod darllediad o raglen ddogfen am gantores o Gricieth.
Mae'r rhaglen 'Seren Bhangra' yn dilyn Nesdi Jones a'i gyrfa fel cantores cerddoriaeth Bhangra yn India.
Mae tua 100 miliwn o bobl ar draws y byd yn siarad Punjabi, ac mi fydd y rhaglen ar gael ar alw yn rhyngwladol ar wefan S4C.
Ffynhonnell y llun, S4C
Nid dyma'r tro cyntaf i'r sianel gynnig is-deitlau mewn iaith ar wahan i Gymraeg a Saesneg - mae is-deitlau Pwyleg wedi bod ar gael yn y gorffennol
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Rachel Evans: "Rydym ni'n falch o fod yn gallu darparu is-deitlau gofynnol ar-lein mewn Punjabi, yn ogystal â Saesneg, ar gyfer y rhaglen ddogfen ddiddorol hon.
"Rwy'n siŵr y bydd diddordeb mawr yn hanes diddorol bywyd Nesdi a'i gyrfa fel cantores Bhangra."