94 cerbyd newydd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru
- Published
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n derbyn 94 cerbyd newydd yn dilyn buddsoddiad o £10.3m gan Lywodraeth Cymru.
Neilltuodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt £10m i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel rhan o Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i'r gwasanaeth brynu:
- 35 ambiwlans argyfwng newydd;
- 13 cerbyd ymateb cyflym/cerbyd cludo cleifion brys;
- 10 cerbyd gwasanaethau gofal cleifion, sy'n medru derbyn gwelyau cludo;
- 32 cerbyd gwasanaethau gofal cleifion, sy'n medru derbyn cadeiriau olwyn;
- 4 cerbyd arbenigol.
Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru 706 o gerbydau, sy'n gwasanaethu ardal dros 8,000 o filltiroedd sgwâr ar draws Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: "Mae'r galw ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynyddu bob blwyddyn, felly mae'n hanfodol i ni fuddsoddi yn y cerbydau diweddaraf er mwyn i'r gwasanaeth fedru darparu'r gofal gorau posibl i bobl Cymru.
"O ganlyniad bydd modd i'r gwasanaeth ambiwlans anfon y clinigwr mwyaf priodol yn y cerbyd mwyaf priodol, gan sicrhau bod pobl yn derbyn yr ymateb cyflymaf posib."