700 o droseddau honedig mewn cartrefi plant yn y gogledd
- Published
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cofnodi mwy 'na 700 o droseddau honedig mewn cartrefi plant yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Daw'r ffigyrau gan elusen Cynghrair Howard dros Ddiwygio'r Gyfundrefn Gosbi.
104 o droseddau honedig gafodd eu cofnodi gan Heddlu'r De, a ni chafodd ffigyrau eu darparu ar gyfer Heddlu Gwent.
Mae'r elusen wedi edrych ar y ffigyrau ar gyfer Cymru a Lloegr ac mae'r gwaith ymchwil yn nodi bod tua 4% o blant rhwng 10-12 wedi ymwneud gyda throseddu ond bod y ffigwr yn codi i 19% rhwng 13-15.
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod y mater yn "broblem systemig" a bod angen gwneud mwy i gefnogi plant yn eu harddegau.
Dywed yr elusen bod heddluoedd weithiau yn cael eu galw ar gyfer digwyddiadau sydd ddim yn ddifrifol a bod plant yn colli cydymdeimlad wrth fynd yn hŷn.
Ychwanegodd: "Y plant sy'n cael eu gweld fel troseddwyr yn eu harddegau yw'r un plant oedd yn cael eu gweld fel unigolion bregus, dieuog ifancach."
Mwy o gydweithio
Mae Cyngor Penaethiaid yr Heddlu Cenedlaethol yn dweud bod angen cofio bod nifer o blant mewn cartrefi wedi profi trawma neu esgeulustod.
Maen nhw'n dweud bod angen i asiantaethau weithio yn well gyda'i gilydd.
Dywedodd llefarydd: "Ni ddylai'r heddlu gael eu galw i ddigwyddiadau bach fyddai fel arall yn cael eu datrys o fewn awyrgylch y cartref.
"Os nad yw hyn yn briodol, dylai swyddogion ystyried dulliau fel cyfiawnder adferol neu adferiad cymunedol.
"Dylai bob ymdrech gael ei wneud i osgoi cadw pobl ifanc mewn celloedd heddlu dros nos."