Cymro'n cyfarfod dieithryn i ddiolch am wyrth
- Cyhoeddwyd

Mae Cymro wedi cyfarfod dieithryn o'r Almaen i ddiolch iddo am achub ei fywyd trwy roi trawsblaniad o gelloedd stem iddo.
Yn 2005 cafodd Lawrence Trace wybod bod ganddo ganser Hodgkin lymffoma. Er iddo wella fe ddaeth y canser yn ôl dwywaith.
Erbyn y tro diwethaf yn 2011, trawsblaniad mer esgyrn oedd ei unig obaith, ond doedd dim aelod o'i deulu yn addas.
Ar ôl chwilio ar y gofrestr byd daeth gwasanaeth Rhoi Gwaed Cymru o hyd i un person fyddai yn gweddu - dyn 21 oed o'r Almaen o'r enw Max Jeckeln.
Ond roedd Lawrence rhwng dau feddwl a fyddai yn bwrw ymlaen gyda'r driniaeth wedi i'w chwaer farw o ganser.
Fodd bynnag, gyda chefnogaeth y staff yn yr ysbyty, penderfynodd gael y trawsblaniad ar ddechrau 2012.
Roedd y driniaeth yn llwyddiannus ac roedd o eisiau cysylltu gyda'r rhoddwr i ddiolch iddo.
Ar ôl gael caniatâd i gysylltu, mae'r ddau ddyn wedi bod yn anfon llythyrau, e-byst ac yn ffonio.
Aeth teulu Lawrence ati i drefnu awyren i Max ddod i Gymru i'r ddau gyfarfod, ble cyflwynodd Lawrence ei fedal Velathon Cymru i'r Almaenwr i ddiolch iddo.
Fe wnaeth Lawrence y cwrs beicio wedi'r driniaeth.