Ysgol Pendalar: Argymell diswyddo aelod o staff

  • Cyhoeddwyd
Ysgol PendalarFfynhonnell y llun, Google

Mae aelod o staff mewn ysgol i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig yn wynebu cael ei diswyddo wedi digwyddiad honedig yn yr ysgol y llynedd.

Cafodd dau aelod o staff o Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon eu diarddel ym mis Rhagfyr.

Nawr mae panel disgyblu wedi argymell y dylai un ohonynt gael ei diarddel. Mae ganddi'r hawl i apelio.

Mae Ysgol Pendalar yn ysgol i ddisgyblion sydd rhwng 3 - 19 sydd ag anghenion arbennig.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau bod gwrandawiadau disgyblaeth yng nghyswllt dau aelod o staff yn Ysgol Pendalar wedi'u cynnal.

"Bydd un aelod o staff yn dychwelyd i'r gwaith yn yr wythnosau nesaf ond ni ellir cadarnhau'r penderfyniad ynglŷn â'r ail aelod staff ar hyn o bryd gan bod hawl gan yr unigolyn dan sylw, yn unol a Trefn Disgyblu'r Ysgol, i gyflwyno apel yn erbyn y dyfarniad a wnaed gan Banel Disgyblu'r Ysgol".