Romania dan-21 2-1 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd

Mae tîm dan-21 Cymru wedi colli am y tro cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Euro 2017.
Daeth yr ergyd i'w gobeithio o gyrraedd y rowndiau terfynol yng Ngwlad Pwyl y flwyddyn nesaf wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Romania yn ninas Medias.
Maen nhw bellach yn drydydd yn Grŵp 5 gan eu gadael bedwar pwynt y tu ôl i Ddenmarc sydd ar y brig.
Aeth Romania ar y blaen wedi 37 munud gyda gôl Robert Hodorogea, ond fe ddylai Cymru wedi bod yn gyfartal cyn yr egwyl. Cafodd cic o'r smotyn gan Ellis Harrison ei harbed gan golwr y tîm cartref, Valentin Cojocaru.
Fe brofodd hynny'n gostus wrth i Romania ddyblu eu mantais wedi 57 munud wrth i Alexander Ionita sgorio, ac er i Jake Charles gael gôl i Gymru yn yr amser ychwanegol, roedd hynny'n rhy hwyr.
Gan mai dim ond enillwyr y grŵp sy'n mynd i'r rowndiau terfynol yn syth, mae Cymru nawr yn wynebu brwydr gyda Romania a Bwlgaria am yr ail safle, gan y bydd y pedwar tîm yn y safle hwnnw gyda'r record orau yn mynd i'r gemau ail gyfle am le yn y gystadleuaeth.