Alex Cuthbert i fethu gweddill y tymor
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd eu hasgellwr Alex Cuthbert yn methu gweddill y tymor wedi iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.
Fe ddioddefodd y chwaraewr rhyngwladol anaf i'w ffêr yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad eleni a fyddai wedi gweld Cuthbert yn colli 10 wythnos o chwarae wrth wella o'r anaf.
Oherwydd hynny, fe benderfynwyd cynnal y llawdriniaeth ar ei ben-glin hefyd yn ystod y cyfnod yma gan y bydd yn gorffwyso.
Fe hedfanodd y chwaraewr 25 oed i Sweden yr wythnos hon er mwyn cael ei drin gan arbenigwyr yn y wlad.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gleision Danny Wilson fod y penderfyniad wedi ei wneud er budd "iechyd tymor hir" Cuthbert, a'u bod yn gobeithio "adferiad diffwdan" iddo wedi'r driniaeth.