Diwedd ar dripiau meddw o amgylch Pen Llŷn?
- Cyhoeddwyd

Wrth i fisoedd yr haf agosáu, a phobl yn dechrau edrych ymlaen at ddyddiau hir o dywydd braf, mae'n bosib y bydd un o arferion y gogledd orllewin yn dirwyn i ben.
Mae'n bosib y bydd teithiau o amgylch tafarndai Pen Llŷn, fel arfer gan grwpiau o bobl ar fysiau mini, yn dod i ben yn dilyn pryderon gan nifer o fusnesau'r ardal am yr effaith ar eu busnesau.
Ond mae'r mater wedi hollti barn, gyda rhai tafarnau hefyd yn croesawu'r teithiau.
Dywedodd Ian Roberts o westy Tŷ Newydd yn Aberdaron, sydd hefyd yn is-gadeirydd grŵp twristiaeth, "nad oedd ganddynt ddewis" ond gwahardd bysiau o bobl feddw rhag teithio i'r dref.
"Mi oedda ni'n arfer croesawu'r criwiau yma, roedd nifer ohonynt yn ymddwyn yn iawn, ond roedd ymddygiad rhai yn mynd dros ben llestri," meddai.
"Tydi hi ddim yn sefyllfa ddelfrydol cael llond bar o bobl yn yfed yr un pryd a phobl a theuluoedd yn bwyta yn y gwesty. Mae criwiau meddw yn gallu ymddangos yn fygythiol i rhai pobl.
"Fel arfer, mae Aberdaron un un o'r pentrefi olaf ar y daith, ac felly mae pobl yn dueddol o fod yn feddw yn cyrraedd yma, felly roedd y sŵn a'r rhegfeydd yn dueddol o fod yn uwch erbyn hynny.
"Mi ddaru ni ddweud am gyfnod bod croeso i fysus alw rhwng 3:00 a 6:00 y prynhawn [rhwng cyfnodau gweini bwyd y gwesty] ond fel arfer roedd hi ar ôl hynny arnyn nhw'n dod.
Ychwanegodd: "Tydi Aberdaron ddim yn le mawr, ac felly roedd cael criwiau o bobl meddw yn ymgasglu o amgylch y pentref yn dechrau effeithio ar fusnesau eraill hefyd, a dyna pam mae'r grŵp twristiaeth wedi penderfynu peidio â gadael y teithiau hyn rhag ymweld â'r pentref."
'Coblyn o lanast'
Mae rhai o dafarndai pentref Abersoch hefyd wedi dechrau mynd i'r un cyfeiriad a thafarndai Aberdaron, wrth i nifer ohonynt wahardd y teithiau.
Mae un bar wedi penderfynu atal criwiau mawr rhag dod i mewn tan ar ôl 22:00, pan fydd pobl wedi gorffen bwyta yn y dafarn.
Dywedodd perchennog un tafarn arall, nad oedd am gael ei enwi, ei fod wedi eu gwahardd yn gyfan gwbl:
"Tydi nhw ddim byd ond trafferth, maen nhw i mewn am ryw 10 munud ac yn gadael coblyn o lanast ar eu hôl.
"'Dio jyst ddim werth o."
'Croesawu cwsmeriaid Cymraeg'
Un o'r tafarndai lle bydd nifer yn dechrau ar eu taith ydi Tafarn y Fic yn Llithfaen.
Yn ôl Myrddin ap Dafydd, un o gyfarwyddwyr y dafarn gydweithredol, "mae'n braf gallu croesawu cwsmeriaid Cymraeg".
"Mae'n braf gweld ymwelwyr Cymraeg o ardaloedd fel Dyffryn Conwy, Caernarfon, Y Bala ac Ynys Môn yn ymweld â Phen Llŷn," meddai.
"Mae'r tripiau yma wedi bod yn mynd ers peth amser ac mae 'na wastad groeso iddyn nhw yn y Fic."
Mae Caroline Lee o dafarn y Lion yn Nhudweiliog yn cyd-weld a safbwyntiau Mr Roberts, ond mae hi wedi addasu, fel bod lle yng nghefn ei thafarn ar gyfer y criwiau hyn, fel nad ydynt yn amharu ar gwsmeriaid eraill.
"Maen nhw'n gallu bod yn niwsans, pan mae chwe bys yn cyrraedd 'run pryd, ac mae'r rhegi'n gallu bod yn annymunol, ond mae mwyafrif o nghwsmeriaid ffyddlon wrth eu bodda eu gweld, am eu bod yn dod ac ychydig o liw i'r lle." meddai Ms Lee.
'Siomedig'
Mae David Carl Jones o Rosgadfan ger Caernarfon wedi bod ar sawl un o'r teithiau yma dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn "siomedig" o glywed nad oes croeso i griwiau fel hyn yn rhai o dafarndai Pen Llŷn.
"Mae'n bechod, rŵan fod 'na ddim clwb nos yng Nghaernarfon ar benwythnosau, roedd trip o amgylch Pen Llŷn wastad yn hwyl a rhywbeth i edrych mlaen ato.
"'Da ni wastad 'di cael croeso yn y tafarndai ar hyd y ffordd, ond mi wn am sawl achlysur lle mae'r 'ogia wedi mynd dros ben llestri.
"Mewn un digwyddiad meddw fe ddwynodd un o'r 'ogia het oddi ar ben ffermwr lleol am hwyl, fe aeth y ffermwr yn gandryll, ond mi fedrai weld pam, banter oedd o i ni, ond fe allai pobl gael llond bol ar ymddygiad o'r fath."