Nigel Owens i dorri record byd
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi cael ei benodi i ofalu am y gêm rhwng Fiji a Tonga ar 11 Mehefin, ac fe fydd yn torri record byd wrth wneud hynny.
Hon fydd gêm ryngwladol rhif 71 gyda Owens yn y canol, sy'n golygu mai fe yw'r dyfarnwr mwyaf profiadol erioed.
Mae'n cipio record Jonathan Kaplan o Dde Affrica a fu yng ngofal 70 o gemau rhyngwladol yn ystod ei yrfa.
Ers ei gêm brawf gyntaf yn 2003 - pan enillodd Portiwgal o 34-30 yn erbyn Georgia - mae Owens wedi dod yn un o'r dyfarnwyr mwyaf uchaf ei barch yn hanes y gêm ac wedi teithio'r byd o Krasnoyarsk yn Siberia i Kingstown yn St Vincent.
Penllanw'r cyfan oedd cael ei ddewis i ddyfarnu rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Twickenham y llynedd.
Tro cyntaf yn Fiji
Dywedodd Owens: "Mae'n anrhydedd cael fy newis ar gyfer y gêm bwysig hon ac fe fyddai'n paratoi yn yr un ffordd ag yr wyf i wastad yn gwneud. Yn wir mae'n anrhydedd bob tro i ddyfarnu...mwy felly ar gyfer gêm brawf.
"Roedd cael dyfarnu'r ffeinal yn brofiad gwych ac yn un y byddaf yn ei drysori am byth, ond mae pob gêm yn gofiadwy yn ei ffordd ei hun ac rwy'n edrych ymlaen at yr her ddiweddara' yn Fiji - rhywle dydw i erioed wedi dyfarnu o'r blaen."
Daeth teyrnged i Nigel Owens gan gadeirydd y panel sy'n penodi dyfarnwyr rhyngwladol, John Jeffrey.
Dywedodd: "Dros flynyddoedd lawer mae e wedi dangos ei fod e'n un o'r dyfarnwyr gorau yn y byd ac mae'n was ffyddlon i'r gêm. Er mai'r uchafbwynt oedd cael dyfarnu'r rownd derfynol yn 2015, mae'n gweithredu'r un safonau uchel i bob gêm y mae'n ei dyfarnu.
"Mae bod ar frig y gêm am gyhyd yn dangos ei allu, dyfalbarhad a gwaith caled, ac rwy'n dymuno'n dda iddo wrth iddo dorri'r record yn y gêm yma."