Dechrau ar y gwaith o atgyweirio pont hanseyddol

  • Cyhoeddwyd
pont ceredigion

Mae'r gwaith o atgyweirio pont hanesyddol yng Ngheredigion wedi dechrau ar ôl iddi ddymchwel yn rhannol.

Fe gaeodd pont Llanfair Clydogau, ger Llambed, yn gynharach y mis hwn wedi iddi gael ei difrodi mewn tywydd garw.

Bu'n rhaid i rai o'r trigolion yno deithio wyth-milltir er mwyn cyrraedd y siopau gyda'r difrod yn rhannu'r pentref yn ddwy.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn gobeithio yn gobeithio ei hailagor "cyn gynted â phosib".

Y gobaith yw y bydd y gwaith wedi ei orffen erbyn Mehefin 2016.

Dywedodd Huw Morgan, cyfarwyddwr strategol y cyngor ar gyfer cymunedau cynaliadwy: "Mae adnewyddu a diogelu lleoliadau hanesyddol fel y bont hon yn bwysig iawn i dreftadaeth Cymru."

Bydd hi'n bosib i gerddwyr groesi'r bont yn ystod y gwaith o atgyweirio.