Crysau dynion i dîm pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Helen Ward
Disgrifiad o’r llun,
Mae Helen Ward hefyd yn chwarae i glwb Reading

Mae tîm pêl-droed merched Cymru yn cael eu gorfodi i wisgo crysau dynion, yn ôl aelod o'r garfan.

Fe ddywedodd Helen Ward nad ydi'r chwaraewyr yn cael cynnig crysau sydd wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer merched.

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales, dywedodd Ward ei bod hi'n sefyllfa "siomedig".

"Mi ydyn ni yn gwisgo beth ni'n cael," meddai. "Ond mae'n braf gwisgo dillad sydd yn ffitio.

"Mae'r sefyllfa'n un siomedig iawn achos mae nifer o grysau ar gael mewn meintiau ar gyfer merched."

Mae Cymdeithas Pêl Droed Cymru wedi gwrthod gwneud sylw am y mater.

'Colli cyfle'

Daw ei sylwadau wrth i gefnogwyr gwyno'i bod hi ddim yn bosib cael crysau i gefnogwyr mewn meintiau merched ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016.

Adidas sy'n cynhyrchu'r crysau yma.

Yn ôl Ward, sydd hefyd yn chwarae i glwb Reading, mae cyfle wedi ei golli gyda'r bencampwriaeth ar y gorwel.

"Mae llawer o grysau pêl-droed yn dod mewn meintiau merched nawr ac mae peidio cael hyn ar gyfer digwyddiad mor fawr â'r Euros yn siomedig iawn," meddai.

"Nid dim ond dynion a phlant sydd eisiau gwisgo'r crysau. Mae merched eisiau gwneud hefyd."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Adidas bod y crysau sydd ar werth "ar gyfer dynion a menywod" a bod yna "ystod eang o feintiau sydd yn gweddu ar gyfer anghenion yr holl gefnogwyr."