Cerydd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi marwolaethau milwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi derbyn cerydd am fethiannau wnaeth arwain at farwolaethau tri milwr ar ymarferiad gyda'r SAS ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts o ganlyniad i esgeulustod ar y daith 16 milltir yn 2013.
Fe wnaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) gyhoeddi cerydd, sef y weithred uchaf y gallan nhw gymryd gan nad oes modd erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymddiheuro am y methiannau.
Fis Gorffennaf diwetha' daeth cwest i'r casgliad fod esgeulustod wedi bod yn ffactor ym marwolaethau'r tri milwr.
Daeth ymchwiliad gan yr HSE i'r casgliad fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu a chynllunio, asesu na rheoli'r risg yn gysylltiedig â salwch o ganlyniad i'r hinsawdd yn ystod yr ymarferiad.
Roedd y methiannau hyn wedi arwain at farwolaeth y tri milwr, a salwch gwres ymhlith 10 milwr arall fu'n rhan o'r orymdaith ar ddiwrnod poeth iawn yn 2013.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn mynnu bod "nifer o welliannau" wedi eu gweithredu i leihau'r risg ar ymarferion o'r fath.