Cyflwyno achos busnes dros drydaneiddio trenau'r gogledd

Trenau Arriva Cymru
Image caption Trenau fel hyn sydd i'w gweld ar arfordir y gogledd gan amlaf ar hyn o bryd

Mae achos busnes o blaid trydaneiddio prif lein reilffordd y gogledd wedi cael ei chyflwyno ddydd Iau.

Fe wnaeth Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Edwina Hart, gyflwyno'r cynllun i Patrick McLoughlin, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Wrth gyflwyno'r ddogfen, dywedodd Ms Hart y byddai manteision economaidd i drydaneiddio'r lein rhwng Caergybi a Llandudno a gorsafoedd Crewe a Warrington yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Dywedodd hefyd y gallai'r prosiect greu swyddi.

Gobaith y gweinidog yw y bydd y lein wedi'i thrydaneiddio erbyn 2024.