Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda lori
- Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ym Mro Morgannwg.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 11:35 ddydd Iau ar y B4270 ger Llandŵ.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng y beic modur BMW a lori Scania.
Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad wedi dechrau, ac mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.