Iechyd dannedd: Gwelliant 'sylweddol'
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg wedi dangos fod gwelliant "sylweddol" wedi bod yn iechyd dannedd plant yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw.
Mae pydredd dannedd wedi gostwng o 12% ymysg plant pum mlwydd oed ers 2008, yn ôl yr arolwg gan Brifysgol Caerdydd.
Bu gostyngiad hefyd yn y nifer cyfartalog o ddannedd sy'n cael eu heffeithio gan bydredd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynllun Gwên, sy'n cynnwys brwsio dannedd dan oruchwyliaeth i blant mewn ysgolion a meithrinfeydd, yn helpu i gadw dannedd yn iach wrth dyfu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos y gwelliant mwyaf sylweddol a chyson o ran mynd i'r afael â phydredd dannedd ers cychwyn cofnodi yn y 1980au.
"Yr hyn sy'n bwysig yw bod lefelau clefydau deintyddol yn gostwng ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol - rydyn ni'n cau'r bwlch rhwng iechyd deintyddol y plant tlotaf a iechyd deintyddol y plant mwyaf breintiedig yng Nghymru.
"Yn gyffredinol, y disgwyl yw y bydd lefelau pydredd yn cynyddu neu'n dangos fawr ddim gwelliant yn ystod cyfnodau o ddirywiad ariannol, sy'n gwened y gwelliant hwn yn fwy rhagorol fyth."
Mae mwy na 90,000 o blant mewn 1,439 o ysgolion a meithrinfeydd wedi cymryd rhan yng nghynllun Gwên.